Sengl am y tro cyntaf ers iddi gael boobs, a nôl ble oedd hi ddeng mlynedd yn ôl yn nhŷ ei rhieni – mae’r “ffeminydd wael” a’r awdures diog Carys yn methu, wir yn methu. Yr unig beth sydd wedi newid yw bod ganddi 2:1 a dim hymen.

Cyfres ffraeth, onest a thywyll o’r hyn sydd yn wir am genhedlaeth social media heddiw a’u hymdrechion i garu, callio a byw bywyd i’r eithaf.  Creuwyd Merched Parchus a’i wireddu gan rai o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru, Hanna Jarman (o Gaerdydd) a Mari Beard (o Aberystwyth). Mae’r ddwy wedi creu a ysgrifennu Merched Parchus ac yn chwarae’r ddwy brif gymeriad Carys a Lowri.

2019
Ysgrifennwyd gan: Hanna Jarman & Mari Beard
Cynhyrchydd: Alice Lusher
Cyfarwyddwr: Claire Fowler