Cyfuniad o symudiad, ffasiwn a cherddoriaeth: mae’r gynfas symudol hon dan gyfarwyddyd Tina Pasotra, sy’n gyfarwyddwr Cymreig-Indiaidd, yn dychmygu hunaniaeth ddiwylliannol a hil fel cysyniadau symudol nad ydynt wedi cael eu diffinio gan gyfyngiadau deuaidd cymdeithas.

2017
Cyfarwyddwr: Tina Pasotra
Cynhyrchydd: Alice Lusher

Cyflwynwyd y ffilm gan Gynyrchiadau ie ie, Big Dance, a Blwyddyn Diwylliant 2017 y Deyrnas Unedig/India y British Film Council, a hynny mewn cydweithrediad â Little Dot Studios ar gyfer cyfres Channel 4 Random Acts.

Dangosir y ffilm yn ystod y gwyliau canlynol: Gŵyl Flatpack, Gŵyl Ddawns Caerdydd, Nosweithiau Gyda’r Hwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth, Big Dance Shorts India (yn Bengaluru, Mumbai, Delhi Newydd a Kolkata).