Mae Queerama yn ffilm sy’n seiliedig ar drysor cudd archifau’r BFI. Mae’r stori’n cwmpasu canrif o brofiadau pobl hoyw, gan gynnwys yr erledigaethau a’r erlyniadau, yr anghyfiawnder, y cariad a’r chwant, yr hunaniaeth, y cyfrinachau, y cyfarfodydd gwaharddedig, y rhyddid rhywiol a’r balchder. Mae’r trac sain yn plethu ynghyd eiriau a cherddoriaeth John Grant a Hercules & Love Affair â delweddau’r ffilm, gan ein tywys ar daith bersonol at berthnasoedd, chwantau, ofnau a mynegiannau dynion a menywod hoyw yn yr 20fed ganrif – canrif a brofodd newid mawr.

2017
Ffilm Ddogfen: 70’
Cyfarwyddwr: Daisy Asquith
Cynhyrchydd: Catryn Ramasut