“Gwena wên, a’r wên a ddychwel.” Stori am gyfeillgarwch a chydnabyddiaeth yw ELEN o ddychymyg bywiog merch 10 mlwydd oed sydd ag Epilepsi.
2017 / 18
Awdur a Chyfansoddwr: Lisa Jên Brown
Cyfarwyddwr: Andy Newbery
Cynhyrchydd: Alice Lusher
Cafodd Elen ei dewis yn swyddogol ar gyfer gŵyl TIFF Kids 2018, ac fe’i dangosir yn ystod gŵyl Prix Jeunesse yn ddiweddarach eleni.
Mae’r darllediad cyntaf ar S4C wedi cael ei drefnu ar gyfer 15 Mai 2018, a hynny’n rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Epilepsi.
Bydd y ffilm yn cael ei darlledu unwaith yn rhagor ym mis Mehefin trwy Gyfres Dramâu Plant yr Undeb Darlledu Ewropeaidd 2018.