Mae’r cerddor cwlt Gruff Rhys yn cofnodi ei daith gerddorol ddiweddaraf, gan ddilyn ôl traed ei berthynas o’r G18, y fforiwr John Evans, ar siwrnai anhygoel yn America.

Gadawodd John Evans Gymru am America gyda dim ond $1.75 yn ei boced er mwyn chwilio am lwyth coll o Indiaid brodorol oedd yn siarad Cymraeg. Ar ei ben ei hun a heb geffyl, cerddodd i wylltiroedd y Gwastadeddau Eang yn y Gorllewin Gwyllt gan ailymddangos saith mlynedd yn ddiweddarach fel Don Juan Evans.

Yn ystod yr antur ryfeddol ond hollol wir hon, enillodd John ymddiriedolaeth llwythau brodorol yr Omaha a’r Mandaniaid. Mi nofiodd gydag aligetors. A hela’r beison. Daeth drwyddi’n fyw ar ôl dal malaria; newidiodd ochr gan dalu gwrogaeth i goron Sbaen ac ar ei ben ei hun bach, llwyddodd i fachu North Dakota oddi ar y Canadiaid. Yn ôl y chwedl, bu farw’n wallgof a heb sentan i’w enw yn New Orleans yn ddim ond naw ar hugain oed, heb sylweddoli cymaint yr oedd wedi’i gyflawni.

Taith gyngerdd ymchwilgar yw ‘American Interior’. Mae dychymyg, ffeithiau, chwedlau a cherddoriaeth yn mynd benben â’i gilydd wrth i Gruff hedfan fel eryr ac udo fel blaidd ar lwybr ei hen (eithafol o hen) ewythr.

Gan ddechrau yn Llyfrgell Beinecke ym Mhrifysgol Yale, lle dywedir y cedwir map enwog John Evans, mae Gruff yn hyrddio’i hun dros ei ben i ganol cadwyn o gyngherddau, sesiynnau recordio, a sgyrsiau gyda newyddiadurwyr, academyddion, seicolegwyr a phobl leol wrth fynd ar ei hynt.

O Baltimore i St Louis, i fyny at Dir Cadw’r Mandaniaid yn Casino ac i lawr basin y Mississippi i dy’r Hen Lywodraethwr yn New Orleans, mae Gruff yn archwilio i arwyddocâd John Evans yn hanes America, union amgylchiadau ei farwolaeth a lleoliad ei feddrod coll.

Ffilm Ddogfen
Albwm
Llyfr
Ap
Gwefan

2014
Cyfarwyddwyr: Gruff Rhys & Dylan Goch
Cynhyrchydd: Catryn Ramasut