Cwmni cynhyrchu dwyieithog wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Cynyrchiadau ieie. Cafodd ei sefydlu gan Catryn Ramasut a’r cerddor Gruff Rhys yn 2005 i gynhyrchu eu rhaglen ddogfen nodwedd arobryn gyntaf, ‘Separado!’.

Wedi’i ysbrydoli gan broses adrodd storïau ar y cyd, celfyddyd y groes, gwaith animeiddio a cherddoriaeth, mae’r cwmni wedi mynd yn ei flaen i gynhyrchu nifer o raglenni dogfen ar gyfer y rhwydwaith, gan gynnwys Richard and Jaco: Life With Autism, a wyliwyd dros 10 miliwn o weithiau ar BBC Stories yn gynharach eleni.

Yn 2014, rhyddhaodd ieie ei ail raglen ddogfen nodwedd, sef prif eitem y prosiect aml-lwyfan, ‘American Interior’ (ffilm, albwm, llyfr, ap a gwefan), a oedd yn torri tir newydd ac a gafodd ganmoliaeth dda gan yr adolygwyr. Yn 2017, rhyddhawyd Queerama, ffilm a gafodd ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol Sheffield Doc/Fest, ac a oedd yn rhan o linyn Gross Indecency y Diwydiant Ffilm Prydeinig (BFI) yn ogystal â Storyville y BBC.

Mae gweledigaeth nodweddiadol y cwmni yn cofleidio diwylliant Cymru, ac yn canolbwyntio ar ymgyrchwyr benywaidd o amryfal gefndiroedd. Rydym yn anelu at gynhyrchu prosiectau aml-lwyfan arloesol ac arbrofol, sy’n ymestyn ffiniau creadigrwydd a thechnoleg. Rydym yn ymdrechu i gyfarwyddo, addysgu ac ysgogi cynulleidfa o ddefnyddwyr cyfryngau sy’n gofyn am fwy a mwy ac sy’n gynyddol soffistigedig, ynghyd ag annog safbwyntiau byd-eang ehangach.

Gyda chefnogaeth Vision Award 3 y Diwydiant Ffilm Prydeinig (BFI), yn ogystal â Ffilm Cymru Wales, mae’r cwmni’n parhau i dyfu, gan weithio gyda thîm o gynhyrchwyr a chyfarwyddwyr sy’n gweithio ar eu liwt eu hunain i ddatblygu arlwy amrywiol o gynyrchiadau ‘diwylliannol’ creadigol a heriol, sy’n procio’r meddwl, ac sy’n cynnwys ffilmiau nodwedd, rhaglenni dogfen, rhaglenni radio, ac, erbyn hyn, dramâu.

Cefnogir Cynyrchiadau ieie gan Vision Awards y Diwydiant Ffilm Prydeinig (BFI)

BAFTA_STAMPS_WINNER_CYMRU_PHOTO_MASK_POS_SMALL copy
BFI_LOGO
ffilmlogo_teal
Screen-Diversity
Catryn Ramasut

Yn rhinwedd ei gwaith yn rheolwr gyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Cynyrchiadau ie ie, mae Catryn wedi treulio’r degawd diwethaf yn sefydlu enw da’r cwmni ar lefel fyd-eang am ddatblygu a rhannu cynnwys uchelgeisiol ac arobryn. Ar hyn o bryd, mae’n dderbynnydd gwobr fawreddog BFI Vision Award 3 ac yn cymryd rhan yn rhaglen fentora Guiding Lights.

Enillodd ei phrif ffilm gyntaf, Separado!, wobr Sound and Vision CPH:DOX yn 2010; ac roedd American Interior, a gafodd ganmoliaeth gan adolygwyr, ac a ryddhawyd yn 2014, yn gynhyrchiad arloesol, aml-lwyfan a lwyddodd i ddod â mwy na 30 o randdeiliaid rhyngwladol, o ddiwydiannau cyhoeddi, ffilm, digidol a cherddoriaeth, ynghyd am y tro cyntaf. Roedd Catryn yn gyfrifol am arwain y tîm cynhyrchu, sicrhau cyllid a chytundebau dosbarthu byd-eang, yn ogystal â rhoi ymgyrch farchnata aml-sianel heriol ar waith i gefnogi’r gwaith o lansio’r cynhyrchiad hyd prif ffilm. Yn 2017, rhyddhawyd Queerama, ffilm a gafodd ei dangos am y tro cyntaf ar noson agoriadol Sheffield Doc/Fest, ac, ar hyn o bryd, mae’r ffilm ar daith lwyddiannus, yn rhan o gylchdaith y gwyliau rhyngwladol.

Mae Catryn yn llwyddo i gyfuno ei phrofiad helaeth o gynhyrchu – sy’n rhychwantu pob math o allbynnau, o radio i deledu, o newyddiaduraeth i hysbysebu, a chynhyrchu ffilmiau erbyn hyn – â’i sgiliau rheoli busnes cryf. Dengys ei phortffolio eang ei gallu i arwain y broses greadigol ar gyfer cyfryngau o fathau gwahanol, ynghyd â’i gallu i feithrin syniad i fod yn ddewis sy’n fasnachol hyfyw ym myd newidiol y cyfryngau, sy’n cael ei lywio gan ymyrraeth ddigidol.

A hithau’n gyfrifol am weithrediadau dyddiol Cynyrchiadau ie ie, mae Catryn yn canolbwyntio ar gael y gorau allan o’i thîm amrywiol o gydweithredwyr er mwyn sicrhau bod allbwn y cwmni’n gafael yn nychymyg cynulleidfaoedd gartref a thramor.

Alice Lusher

Mae gan Alice 16 mlynedd o brofiad ym maes cynhyrchu dramâu teledu a phrif ffilmiau o’r radd flaenaf. A hithau wedi codi trwy’r rhengoedd datblygu a chynhyrchu, mae ganddi ddealltwriaeth eang o gynhyrchu ffilmiau, sy’n ymestyn o’r cysyniad i’r dosbarthiad terfynol.

Gan ddefnyddio ei phrofiadau’n gweithio i rai o gwmnïau annibynnol blaenllaw’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys cwmni Ffilm a Theledu Carnival, Tiger Aspect, Left Bank Pictures a Clerkenwell Films, mae Alice wedi saernïo hanes cryf o weithio ym maes datblygu stori, ac o ran darparu cyllidebau a threfnu gwasanaethau ar gyfer ffilmiau annibynnol sydd â chyllidebau bychain.

Mae’r cynyrchiadau y mae Alice wedi bod ynghlwm wrthynt yn cynnwys y gyfres a enillodd lu o wobrwyon, sef Misfits ar E4, ynghyd â chomedi sefyllfa Medics gan Comedy Central, Wallander, Afterlife, a The Edge of Love, gyda Matthew Rhys yn portreadu Dylan Thomas. Yn 2011, cynhyrchodd Once And For All, sef ffilm fer a sinematig yn hyrwyddo cerddoriaeth y band Clock Opera, a gomisiynwyd gan Island Records. Cafodd ei dangos yng ngŵyl ffilm Raindance, Gŵyl Ffilmiau Byrion Llundain a Cannes In a Van.

Ymunodd Alice â Chynyrchiadau ie ie am y tro cyntaf yn 2012, a hynny’n rhan o’r tîm cynhyrchu ar gyfer American Interior. Bellach, mae’n gyfrifol am arwain Adran Ddrama’r cwmni, ynghyd â chynorthwyo â’r gwaith dyddiol o redeg y cwmni a goruchwylio’r amrywiaeth o brosiectau prif ffilm a rhaglenni teledu sydd ar y gweill.

Cymerodd ran yn ddiweddar yng nghynllun Filmonomics Birds Eye View – cynllun sy’n ‘hyrwyddo ac yn addysgu am y safbwynt benywaidd mewn ffilmiau trwy ‘Wneud!’ – nid dweud’ – lle bu’n gweithio ar ddatblygu ein prif ffilm animeiddiedig, sef Candylion. Cynhyrchodd hefyd ffilm ddramatig gyntaf Cynyrchiadau ie ie, sef Elen, ar gyfer S4C, a Chyfres Dramâu Plant yr Undeb Darlledu Ewropeaidd.

Jack Wynne-Williams

Mae gan Jack gyfoeth o brofiadau ym maes cyfrifo cynyrchiadau, sy’n cwmpasu pob math o allbynnau. Yn rhinwedd ei waith yn bennaeth cyllid Cynyrchiadau ie ie, mae’n gyfrifol am oruchwylio cyfrifon y cwmni, ac mae’n gweithio ar gyllidebau cynhyrchu unigol a chyfrifo prosiectau.

Mae ganddo berthnasoedd gwaith da ag S4C ac Equity, un o undebau Teledwyr Annibynnol Cymru, ac, ar hyn o bryd, mae’n drysorydd ac yn aelod o fwrdd RIG (Radio Independents Group).

Mae hefyd wedi bod ynghlwm wrth y canlynol: Byw Celwydd, Orion: The Man Who Would Be King, Black Mountain Poets, Grandpa In My Pocket, Tati’s Hotel ac A Child’s Christmas in Wales.

.