Super Furry Animals: The Furry Years (2015)

Synopsis:

Wrth i’r Super Furry Animals ddeffro o’i drwmgwsg, ymunwch â’r grŵp mewn dogfen fydd yn ein tywys ar daith trwy ugain mlynedd o berfformio..

Bydd y ddogfen un awr yn edrych yn ôl ar yrfa y band drwy ddeunydd archif. Mae hefyd yn cynnwys sylwebaeth ecsgliwsif gan aelodau’r band – Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan – wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y gigs.

Mae 2015 yn nodi ugain mlynedd ers i’r Super Furry Animals arwyddo cytundeb gyda’r cwmni recordiau Creation Records a phymtheg mlynedd ers iddynt ryddhau’r albwm llwyddiannus cyfrwng Cymraeg, Mwng.

english