American Interior (2014)

Synopsis:

Dau ddyn. Dwy antur. Dwy ganrif ar wahân.

.Ym 1792, teithiodd gwas fferm o Eryri o’r enw John Evans i America i geisio dod o hyd i lwyth o Americanwyr brodorol ar y Gwastadeddau Mawrion y tybid eu bod yn siarad Cymraeg. Dros ddau gan mlynedd yn ddiweddarach, dilynodd Gruff Rhys, sy’n perthyn o bell i Evans, ôl ei draed, dros y cyfandir, ar Daith Gyngerdd Ymchwiliol.

Prosiect aml-blatfform ar raddfa ryngwladol. Mae hwn yn brosiect unigryw sy’n chwalu’r ffiniau rhwng cerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm ac yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd go iawn yng nghalon y byd newydd.

Ffilm ddogfen nodwedd , albwm, llyfr, ap a gwefan. Cafodd y ffilm ganmoliaeth hael a dangoswyd hi drosodd a throsodd mewn gwyliau ffilm ar draws y byd, yn cynnwys SXSW, Hot Docs, CPH:Dox ac Indie Lisboa a arweiniodd at ennill Dogfen Cerddoriaeth Orau 2015 yng ngŵyl In-Edit, Barcelona.

“A hugely charming and visually gorgeous film”
Hollywood Reporter

“Rhys is a rare talent who has fully earned his cult hero status”
★★★★
Little White Lies

★★★★
Empire

★★★★
New Internationalist

Visit American Interior Website

english